Pob Act


Bandiau


DSC_2911.jpg

THE FUSE

Newydd ar gyfer 2019 - Mae The Fuse yn fand ffrwydrol a brwdfrydig. Maent wedi bod yn perfformio a thrafeilio yn diddanu trigolion Gogledd Cymru am flynyddoedd.

Band llawn egni a chyffro - os ydych yn chwilio am hynny yn eich digwyddiad - The Fuse yw’r band i chi.

Cerddoriaeth Gymraeg ar gael.

DSC_3102.jpg

WRAPPED UP

Band newydd sbon - Mae Wrapped Up yn cynnwys cantores pwerus a phrofiadol a rhai o gerddorion mwyaf addawol Gogledd Cymru.

Mae’r triawd yma yn berffaith ar gyfer unrhyw ddigwyddiad sy’n chwilio am berfformiad hudolus. Ar gyfer y rhai ohonoch sy’n mwynhau Tina Turner, Stevie Wonder, Dolly Parton, ag unrhyw fath o ddeuawd.

Cerddoriaeth Gymraeg ar gael.

DSC_9703.jpg

THE SWING

Gadewch i'r pedwarawd soffisdigedig a swynol yma eich tywys ar daith drwy glasuron 'Swing',Pop, Roc a Rol, bydd yn siwr o'ch cadw ar eich traed yn dawnsio tan yr oriau mân. Yn cynnwys casgaliad o glasuron Cymraeg.

DSC_9855.jpg

FOUR KICKS

O hen glasuron i anthemau modern, mae Four Kicks yn barod i ddod a'r parti i'ch digwyddiad neu ddiwrnod mawr. Grwp o gerddorion brwdfrydig a hynod brofiadol sy'n arbennigo mewn Indie, Roc a Pop, heb anghofio llond trol o ffefrynnau Cymraeg.

DSC_9501.jpg

THE 1965

Os ydych yn chwilio am act arbennig iawn ar gyfer eich priodas neu digwyddiad arall, The 1965 yw’r band pennaf yng Ngogledd Cymru. Disgwyliwch glasuron gan Aretha Franklin, Michael Jackson, Beyonce ag Adele.

DSC_9941.jpg

THREE STRIKES

Wedi eu lleoli yn Ynys Môn, mae 'Three Strikes' yn barod i ddod a naws gwyliau'r haf i'ch digwyddiad chi. Disgwyliwch glywed caneuon gan Bruno Mars, Daft Punk, Ed Sheeran, Mumford and Sons a Arctic Monkeys a llawer mwy. Er mai dim ond tri ohonynt sydd, mae'r sŵn maent yn ei greu yn anferth c yn siŵr o godi dwylo pawb i'r awyr.

DSC_2773.jpg

SOUND CITY

Band profiadol, bywiog, sydd wedi dod yn enw cyfarwydd o amgylch Gogledd Cymru. Mae eu perfformiadau yn rhai i’w cofio, gyda caneuon o’r 50au, 60au, i fynu at heddiw.
Mae gan Sound City set eang sy’n cynnwys amrywiaeth mawr o gerddoriaeth Cymraeg, a mae nhw’n barod i wneud eich digwyddiad yn un bythgofiadwy.

the+beats.jpg

UPTOWN BEAT

Mae Uptown Beat yn cynnig perfformiad sy’n cynnwys caneuon I bawb, gyda set yn amrywio o ganeuon Motown i hits modern. Mae eu cymysgfa o ganu, gitar, drums, a’u perfformiadau bywiog yn siwr o gael y dorf ar eu traed.

Alex+Darley+Trio+4.jpg

ALEX DARLEY JR TRIO

Triawd soffistigedig gyda steil unigryw sy’n cyfuno gitar swing gyda llais modern. Mae’r triawd yn perfformio fersiynnau swing o ganeuon poblogaidd modern, a chlasuron jazz.


Pianyddion


WhatsApp+Image+2019-04-28+at+08.52.47%284%29.jpg

GETH TOMOS

Mae gan Geth Tomos flynyddoedd o brofiad yn perfformio ar lwyfannau a digwyddiadau o gwmpas y wlad, yn o gystal a defnyddio ei dalent cerddorol ar nifer o recordiau a phrosiectau gwahanol. Yn ystod ei yrfa, mae Geth wedi chwarae ar Radio 2, BBC 6 Music, Radio Wales, a wedi ymddangos ar lwyfan gyda’r BBC National Orchestra.

Screen-Shot-2017-01-30-at-14.23.00.png

GETHIN GRIFFITHS

Mae Gethin yn bianydd profiadol sydd wedi gweithio gyda nifer o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru, a mae’n cyfuno ei ddawn technegol Gradd 8 gyda’i adnabyddiaeth eang o gerddoriaeth Roc, Pop a Jazz.


sacsoffonwyr


LRM_EXPORT_20171026_213256.jpg

BEN JAY LESTER

Cychwynodd Ben ei astudiaethau yn y Junior Royal Northern College of Music, lle datblygodd ei gefndir cerddorol o Jazz, Swing, a cerddoriaeth glasurol.

Ers iddo raddio o’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd, mae Ben wedi gigio o amgylch y wlad yn chwarae ochr yn ochr â DJs, yn ogystal a chwarae fel unawdydd mewn priodasau.


Llinynnau


Snowdonia%2BQuartet%2B1.jpg

LOUNGE STRING QUARTET

Ensemble bywiog, profiadol a phroffesiynnol, mae’r pedwarawd yma yn cynnwys cerddorion proffesiynnol, cymwysedig sydd ar gael i chwarae priodasau, partïon, a digwyddiadau eraill o gwmpas Cymru a Gogledd Lloegr. Mae’r pedwarawd wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd, a maent yn gyfarwydd gyda’r gofyn ac angen i addasu ar gyfer bob achlysur unigryw.


Telynorion


rhi harp photo...blue (1).jpg

RHIANWEN PUGH

Astudiodd Rhianwen yn Llundain yn y Coleg Brenhinol. Ers graddio, mae Rhianwen wedi trafeilio y byd i weithio gyda artistiaid fel Adele. Mae Rhianwen ar gael ar gyfer pob math o ddigwyddiad.

DSC_7827.jpg

ELFAIR GRUG

Cwblhaodd Elfair Radd Meistr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion, a hynny ddwy flynedd ar ôl ennill Gradd BMus Dosbarth Cyntaf ym 2011.
Derbyniwyd Elfair i astudio Cerddoriaeth yn yr RNCM gyda chymorth a chefnogaeth ysgoloriaeth lawn gan yr ABRSM.

mali 3.jpg

MALI LLYWELYN

Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Mali yn bianydd ag yn delynores sydd nawr bellach yn byw yn Llundain. Astudiodd Mali y delyn a’r biano yn yr Academi Brenhinol ar ysgoloriaeth lawn. Mae Mali ar gael ar gyfer bob math o ddigwyddiad.